Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mehefin 2020
Amser:
12.33 -
13.48
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lowri Hughes, Dirprwy Glerc Jessica England, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yr wythnos hon.
Ymyriadau
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o un funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau sydd eisoes wedi siarad.
Sut i Ymuno
Hysbyswyd y Pwyllgor Busnes, yn wahanol i'r wythnosau blaenorol a gan fod hyd at 60 Aelod yn bresennol erbyn hyn, y byddai'r swyddogion TGCh yn canolbwyntio eu hadnoddau ar sicrhau bod y Prif Weinidog ac Arweinwyr y Pleidiau sy'n siarad ar ddatganiad y Prif Weinidog wedi ymuno â'r cyfarfod cyn yr amser cychwyn. Bydd Rheolwyr Cyfrifon TGCh wrth law fel bob amser i gynorthwyo unrhyw Aelodau eraill i ymuno.
Egwyl
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20. Fodd bynnag, os na ddewisir unrhyw Gwestiynau Amserol, bydd yr egwyl yn gynharach.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Trafododd y Rheolwyr Busnes yr amserlen ar y cyd â'r ceisiadau am ddadleuon yn eitemau 5.1 a 5.2, a'r ystyriaethau amserlennu a godwyd yn eitem 6.1.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 24 Mehefin 2020: -
· Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 34
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith argyfwng Covid-19 ar y sector celfyddydau (30 munud)
Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2020: -
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Amserlen ar gyfer y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac i ymgynghori â'r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig.
4.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm hwn at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gael ei drafod, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 9 Gorffennaf.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl am 30 munud yr wythnos nesaf.
5.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Gwrthododd y Pwyllgor Busnes drefnu'r ddadl cyn toriad yr haf gan nad oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â Covid-19, ond cytunodd mewn egwyddor i drefnu'r ddadl yn yr hydref.
5.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd y bydd Fforwm y Cadeiryddion yn trafod y mater ehangach o gyfarfodydd pwyllgorau o bell yn ei gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon.
6 Y Cyfarfod Llawn
6.1 Busnes y Cyfarfod Llawn: Pleidleisio o Bell, Cwestiynau Llafar, a busnes nad yw'n gysylltiedig â Covid
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i'r newid i'r Rheolau Sefydlog i ddarparu ar gyfer pleidleisio o bell i'r Aelodau, a defnyddio pleidleisio o bell cyn gynted ag y bydd y Llywydd wedi penderfynu bod y system yn barod i'w defnyddio. Ychwanegir cynnig at agenda'r Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes hefyd mai'r dulliadu y dylid eu defnyddio i rybuddio Aelodau am bleidlais sydd ar fin digwydd fydd rhybudd llafar neu rybudd arall yn y Cyfarfod Llawn rhithwir neu hybrid.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Llywydd ailgyflwyno Cwestiynau Llafar o'r wythnos nesaf. Byddai Cwestiynau Llafar:
• yn cynnwys cwestiynau i'r Prif Weinidog ac i ddau Weinidog arall bob wythnos, gyda phob sesiwn yn 45 munud o hyd;
• yn gallu bod ar unrhyw fater o fewn y portffolio perthnasol, ac nid oes angen eu cyfyngu i faterion Covid-19;
• yn destun terfynau amser tebyg i'r rhai a ddefnyddir ar gyfer datganiadau.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes bod y llywodraeth, gyda'r dychweliad y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, yn annhebygol o barhau i amserlennu datganiad gan y Prif Weinidog bob wythnos.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes na ddylid cyfyngu dadleuon yr wrthblaid na busnes y llywodraeth i faterion Covid-19 yn y dyfodol os oes materion eraill sy'n arbennig o berthnasol, ond mai'r disgwyl yw y bydd busnes yn parhau i ganolbwyntio i raddau helaeth ar faterion Covid-19.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cyfyngiadau cyfredol o 10 cwestiwn ysgrifenedig yr wythnos a roddir ar bob Aelod yn ystod y pandemig hwn. Dywedodd y Llywydd y byddent yn dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf a gofynwyd i'r Ysgrifenyddiaeth am ganllawiau pellach ar yr arfer mewn mannau eraill.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd alw cwestiynau ar y Datganiad a'r Cyhoeddiad Busness am amser cyfyngedig o 15 munud, gan ddechrau'r wythnos nesaf. Caiff cyfraniadau aelodau eu cyfyngu i 1 funud a'r disgwyliad yw y bydd y Gweinidog hefyd yn cadw ei hymatebion yn gryno.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyflwyno cynigion ynghylch y toriad ac ar y Cyfarfod Llawn hybrid i'r cyfarfod yr wythnos nesaf a gofynnodd i'r Rheolwyr Busnes drafod hyn â'u grwpiau yn y cyfamser.